1 Samuel 19:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Saul wrth Michal, Paham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fy ngelyn i ddianc? A Michal a ddywedodd wrth Saul, Efe a ddywedodd wrthyf, Gollwng fi; onid e, mi a'th laddaf di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Saul yn rhoi pryd o dafod i Michal, “Pam wnest ti fy nhwyllo i fel yma? Ti wedi gadael i'm gelyn i ddianc!” A dyma hi'n ei ateb, “Dwedodd e wrtho i ‘Well i ti helpu fi i ddianc neu gwna i dy ladd di!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Saul wrth Michal, "Pam y twyllaist fi fel hyn, a gollwng fy ngelyn yn rhydd i ddianc?" Atebodd Michal, "Ef a ddywedodd wrthyf, 'Gollwng fi, neu mi'th laddaf.'"