1 Samuel 19:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd, ac a ddaeth at Samuel i Rama; ac a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethai Saul iddo ef. Ac efe a aeth at Samuel, a hwy a drigasant yn Naioth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd a dianc at Samuel i Rama. Dwedodd wrth Samuel beth oedd Saul wedi bod yn ei wneud iddo. Yna dyma fe a Samuel yn mynd i aros gyda'r gymuned o broffwydi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ffodd Dafydd a dianc i Rama at Samuel, ac adrodd wrtho'r cwbl a wnaeth Saul iddo. Yna aeth Samuel ac yntau, ac aros yn Naioth.