1 Samuel 19:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd. A mynegodd Jonathan i Dafydd, gan ddywedyd, Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw, atolwg, hyd y bore, ac aros mewn lle dirgel, ac ymguddia:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Jonathan yn dweud wrth Dafydd, “Mae fy nhad Saul eisiau dy ladd di. Felly gwylia dy hun bore fory. Dos i guddio yn rhywle ac aros yno o'r golwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd Jonathan fab Saul wedi mynd yn hoff iawn o Ddafydd, a dywedodd wrtho, "Y mae fy nhad Saul yn ceisio dy ladd di; bydd di'n ofalus ohonot dy hun bore yfory, ac ymguddia ac aros o'r golwg.