1 Samuel 19:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saul a anfonodd genhadau i ddala Dafydd. A phan welsant gynulleidfa y proffwydi yn proffwydo, a Samuel yn sefyll wedi ei osod arnynt hwy, yr oedd ar genhadau Saul ysbryd DUW, fel y proffwydasant hwythau hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Saul yn anfon ei weision yno i arestio Dafydd. Ond pan gyrhaeddon nhw dyma nhw'n gweld grŵp o broffwydi yn proffwydo, a Samuel yn eu harwain nhw. A dyma Ysbryd Duw yn dod ar weision Saul, nes iddyn nhw hefyd ddechrau proffwydo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd Saul negeswyr i ddal Dafydd, ond pan welsant dwr o broffwydi'n proffwydo, a Samuel yn sefyll yno'n bennaeth arnynt, disgynnodd ysbryd Duw arnynt ac aethant hwythau i broffwydo.