1 Samuel 19:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan fynegwyd hyn i Saul, efe a anfonodd genhadau eraill; a hwythau hefyd a broffwydasant. A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith; a phroffwydasant hwythau hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Saul beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon gweision eraill. Ond dyma'r rheiny hefyd yn dechrau proffwydo. Dyma Saul yn anfon trydydd criw, a dyma'r un peth yn digwydd iddyn nhw hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fynegwyd hyn i Saul, anfonodd negeswyr eraill, ond aethant hwythau i broffwydo hefyd; a phan anfonodd Saul negeswyr am y trydydd tro, aeth y rheini hefyd i broffwydo.