1 Samuel 19:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yntau hefyd a aeth i Rama; ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr sydd yn Sechu: ac efe a ofynnodd, ac a ddywedodd, Pa le y mae Samuel a Dafydd? Ac un a ddywedodd, Wele, y maent yn Naioth o fewn Rama.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Saul ei hun yn mynd i Rama. Pan ddaeth at y pydew mawr yn Sechw dyma fe'n holi ble roedd Samuel a Dafydd. “Yn aros gyda'r gymuned o broffwydi yn Rama,” meddai rhywun wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe aeth ef ei hun i Rama, ac wedi iddo gyrraedd y pydew mawr yn Secu a holi ple'r oedd Samuel a Dafydd, dywedodd rhywun eu bod yn Naioth ger Rama.