1 Samuel 19:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth yno i Naioth yn Rama. Ac arno yntau hefyd y daeth ysbryd DUW; a chan fyned yr aeth ac y proffwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Rama.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Saul ar ei ffordd yno daeth Ysbryd Duw arno — ie, arno fe hefyd! Aeth yn ei flaen yn proffwydo yr holl ffordd, nes iddo gyrraedd y gymuned yn Rama.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth iddo fynd yno i Naioth ger Rama, disgynnodd ysbryd Duw arno yntau hefyd, ac aeth yn ei flaen dan broffwydo nes dod i Naioth ger Rama.