1 Samuel 19:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddiosgodd ei ddillad, ac a broffwydodd hefyd gerbron Samuel, ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nos. Am hynny y dywedent, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Saul hefyd yn tynnu ei ddillad i ffwrdd a proffwydo o flaen Samuel. Bu'n gorwedd yno'n noeth trwy'r dydd a'r nos. (Dyna o lle daeth y dywediad, “Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?”)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yno fe ddiosgodd yntau ei ddillad a phroffwydo gerbron Samuel; a gorweddodd yn noeth drwy'r dydd a'r noson honno. Dyna pam y dywedir, "A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?"