1 Samuel 19:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jonathan a ddywedodd yn dda am Dafydd wrth Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Na pheched y brenin yn erbyn ei was, yn erbyn Dafydd: oherwydd ni phechodd efe i'th erbyn di, ac oherwydd bod ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Jonathan yn siarad ar ran Dafydd gyda Saul, ei dad. Dwedodd wrtho, “Paid gwneud cam â dy was Dafydd, achos dydy e erioed wedi gwneud dim byd yn dy erbyn di. Mae popeth mae e wedi ei wneud wedi bod yn dda i ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Siaradodd Jonathan o blaid Dafydd wrth ei dad Saul, a dweud wrtho, "Peidied y brenin gwneud cam 'i was Dafydd, oherwydd ni wnaeth ef gam thi; yn wir, bu ei weithredoedd o les mawr iti.