1 Samuel 19:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a osododd ei einioes yn ei law, ac a drawodd y Philistiad; a'r ARGLWYDD a wnaeth iachawdwriaeth mawr i holl Israel: ti a'i gwelaist, ac a lawenychaist: paham, gan hynny, y pechi yn erbyn gwaed gwirion, gan ladd Dafydd yn ddiachos?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad yna, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel. Roeddet ti'n hapus iawn pan welaist ti hynny. Pam mae'n rhaid i ti bechu drwy dywallt gwaed diniwed — lladd Dafydd am ddim rheswm?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad hwnnw, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel gyfan. Yr oeddit tithau'n gweld ac yn llawenychu; pam ynteu yr wyt am wneud cam ag un dieuog, a lladd Dafydd heb achos?"