1 Samuel 19:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r drwg ysbryd oddi wrth yr ARGLWYDD oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ â'i waywffon yn ei law: a Dafydd oedd yn canu â'i law.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD yn dod ar Saul eto. Roedd yn eistedd yn ei dŷ a gwaywffon yn ei law, tra roedd Dafydd yn canu'r delyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD ar Saul ac yntau'n eistedd gartref gwaywffon yn ei law, a Dafydd yn canu'r delyn.