1 Samuel 2:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a ymrysonant â'r ARGLWYDD, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o'r nefoedd: yr ARGLWYDD a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i'w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu dryllio, bydd e'n taranu o'r nefoedd yn eu herbyn. Yr ARGLWYDD sy'n barnu'r byd i gyd. Mae'n rhoi grym i'w frenin, a buddugoliaeth i'r un mae wedi ei ddewis.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dryllir y rhai sy'n ymryson 'r ARGLWYDD; tarana o'r nef yn eu herbyn. Yr ARGLWYDD a farna eithafoedd daear; fe rydd nerth i'w frenin a dyrchafu pen ei eneiniog."