1 Samuel 2:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i'w rostio i'r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gwas yr offeiriad yn mynd atyn nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed gael cyfle i losgi'r braster, a dweud wrth yr un oedd yn offrymu, “Rho beth o'r cig i'r offeiriad ei rostio. Does ganddo ddim eisiau cig wedi ei ferwi, dim ond cig ffres.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dechreuodd gwas yr offeiriad ddod cyn llosgi'r braster hyd yn oed, a dweud wrth y dyn oedd yn offrymu, "Rho gig i'w rostio i'r offeiriad; ni chymer gennyt gig wedi ei ferwi ond cig ffres."