1 Samuel 2:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os gŵr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y braster, ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, Nage; yn awr y rhoddi ef: ac onid e, mi a'i cymeraf trwy gryfder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os oedd rhywun yn ateb, “Gad i'r braster gael ei losgi gynta, yna cei di gymryd beth bynnag wyt ti'n ei ffansïo,” byddai'r gwas yn dweud, “Na! rho fe i mi nawr. Os na wnei di, bydda i'n defnyddio grym.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os dywedai'r dyn, "Gad iddynt o leiaf losgi'r braster yn gyntaf, yna cymer iti beth a fynni," atebai, "Na, dyro ar unwaith, neu fe'i cymeraf trwy rym."