1 Samuel 2:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Eli a fendithiodd Elcana a'i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr ARGLWYDD i ti had o'r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr ARGLWYDD. A hwy a aethant i'w mangre eu hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddai Eli yn bendithio Elcana a'i wraig, a dweud, “Boed i'r ARGLWYDD roi plant i ti a Hanna yn lle yr un mae hi wedi ei fenthyg iddo.” Yna bydden nhw'n mynd yn ôl adre.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A byddai Eli'n bendithio Elcana a'i wraig cyn iddynt fynd adref, ac yn dweud, "Rhodded yr ARGLWYDD blant iti o'r wraig hon yn lle'r un a fenthyciwyd i'r ARGLWYDD."