1 Samuel 2:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a'r modd y gorweddent gyda'r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Eli wedi mynd yn hen iawn. Byddai'n clywed o hyd am bopeth roedd ei feibion yn ei wneud i bobl Israel (ac roedd e'n gwybod hefyd eu bod nhw'n cael rhyw gyda'r merched oedd yn gweini wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd Eli'n hen iawn, clywodd am y cwbl a wni ei feibion drwy Israel gyfan, a'u bod yn gorwedd gyda'r gwragedd oedd yn gweini wrth ddrws pabell y cyfarfod.