1 Samuel 2:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a'i barnant ef: ond os yn erbyn yr ARGLWYDD y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr ARGLWYDD eu lladd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn person arall, gall droi at Dduw am help. Ond os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, pwy sy'n mynd i'w helpu?” Ond roedd meibion Eli yn gwrthod gwrando ar eu tad, achos roedd yr ARGLWYDD wedi penderfynu eu lladd nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw un yn pechu yn erbyn rhywun arall, y mae Duw yn ganolwr, ond os pecha rhywun yn erbyn yr ARGLWYDD, at bwy y gellir apelio?" Ond gwrthod gwrando ar eu tad a wnaethant, oherwydd ewyllys yr ARGLWYDD oedd eu lladd.