1 Samuel 2:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Paham y sethrwch chwi fy aberth a'm bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â'r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, pam dych chi'n difrïo'r aberthau a'r offrymau dw i wedi rhoi gorchymyn amdanyn nhw. Pam wyt ti'n dangos mwy o barch at dy feibion nag ata i? Dych chi'n stwffio'ch hunain gyda'r darnau gorau o offrymau fy mhobl Israel!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pam yr ydych yn llygadu fy aberth a chwennych fy offrwm a orchmynnais, ac anrhydeddu dy feibion yn fwy na mi, a'ch pesgi'ch hunain 'r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?'