1 Samuel 2:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gŵr o'r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i'th lygaid ballu, ac i beri i'th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n gadael un o dy deulu ar ôl i wasanaethu wrth fy allor, ond bydd hwnnw'n colli ei olwg ac yn torri ei galon. Bydd gweddill dy ddisgynyddion yn marw yn ddynion ifainc.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd unrhyw un o'r eiddot na fyddaf yn ei dorri i ffwrdd oddi wrth fy allor yn boen llygad ac yn ofid calon iti, a bydd holl blant dy deulu yn dihoeni a marw.