1 Samuel 2:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘A dyma'r arwydd i brofi i ti fod hyn yn wir: bydd dy ddau fab, Hoffni a Phineas, yn marw ar yr un diwrnod!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr hyn a ddigwydd i'th ddau fab, Hoffni a Phinees, yn argoel iti: bydd farw'r ddau yr un diwrnod.