1 Samuel 2:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a'r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y rhai sydd ar ben eu digon yn gorfod gweithio i fwyta, ond bydd y rhai sy'n llwgu yn cael eu llenwi. Bydd y wraig sy'n methu cael plant yn cael saith, ond yr un sydd â llawer yn llewygu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd y porthiannus yn gweithio am eu bara, ond y newynog yn gorffwyso bellach. Planta'r ddi-blant seithwaith, ond dihoeni a wna'r aml ei phlant.