1 Samuel 2:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe sydd yn cyfodi'r tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu'r anghenus o'r tomennau, i'w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr ARGLWYDD colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw, a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwriel i eistedd gyda'r bobl fawr ar y sedd anrhydedd. Duw sy'n dal colofnau'r ddaear, a fe roddodd y byd yn ei le arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n codi'r gwan o'r llwch ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen, i'w osod i eistedd gyda phendefigion ac i etifeddu cadair anrhydedd; canys eiddo'r ARGLWYDD golofnau'r ddaear, ac ef a osododd y byd arnynt.