1 Samuel 2:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Traed ei saint a geidw efe, a'r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae e'n gofalu am y rhai sy'n ffyddlon iddo, ond bydd y rhai drwg yn darfod yn y tywyllwch, achos dydy pobl ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n gwarchod camre ei ffyddloniaid, ond y mae'r drygionus yn tewi mewn tywyllwch; canys nid trwy rym y mae trechu.