1 Samuel 20:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y gwnêl yr ARGLWYDD i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a'th ollyngaf ymaith, fel yr elych mewn heddwch: a bydded yr ARGLWYDD gyda thi, megis y bu gyda'm tad i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy e am wneud drwg i ti, boed i Dduw ddial arna i os gwna i ddim gadael i ti wybod a dy helpu di i ddianc yn saff! Dw i'n gweddïo y bydd Duw gyda ti fel roedd e gyda dad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os yw fy nhad am wneud niwed iti, yna fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, Jonathan, a rhagor, os na fyddaf yn dweud wrthyt, er mwyn iti gael mynd ymaith yn ddiogel. Bydded yr ARGLWYDD gyda thi, fel y bu gyda'm tad.