1 Samuel 20:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele hefyd, mi a anfonaf lanc, gan ddywedyd, Dos, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o'r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn pan fydda i'n anfon gwas i nôl y saethau, os bydda i'n dweud, ‘Edrych, mae'r saethau yr ochr yma i ti. Dos i'w nôl nhw,’ yna gelli ddod yn ôl. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw byddi'n saff, does yna ddim peryg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedyn anfonaf y llanc a dweud, 'Dos i nl y saethau.' Os byddaf yn dweud wrth y llanc, 'Edrych, y mae'r saethau y tu yma iti; cymer hwy', yna tyrd, oherwydd y mae'n ddiogel iti, heb unrhyw berygl, cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw.