1 Samuel 20:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, atolwg; oherwydd i'n tylwyth ni y mae aberth yn y ddinas, a'm brawd yntau a archodd i mi fod yno: ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gad i mi fyned, atolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. Oherwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Mae'n ddiwrnod aberthu i'n teulu ni,’ meddai, ‘ac mae fy mrawd wedi dweud fod rhaid i mi fod yno. Plîs gad i mi fynd i weld fy mrodyr.’ Dyna pam dydy e ddim yma i fwyta gyda'r brenin.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, 'Gad imi fynd, oherwydd y mae gan y teulu aberth yn y dref, ac y mae fy mrawd wedi peri i mi fod yno; felly, os gweli di'n dda, gad imi fynd draw i weld fy mrodyr.' Dyna pam nad yw wedi dod at fwrdd y brenin."