1 Samuel 20:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saul a ergydiodd waywffon ato ef, i'w daro ef. Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Saul yn taflu ei waywffon at Jonathan gan fwriadu ei daro. Felly roedd yn gwybod yn iawn bellach fod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna hyrddiodd Saul waywffon ato i'w daro, a sylweddolodd Jonathan fod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd.