1 Samuel 20:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon, ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o'r mis: canys drwg oedd ganddo dros Dafydd, oherwydd i'w dad ei waradwyddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cododd Jonathan, a gadael y bwrdd. Roedd wedi gwylltio'n lân. Wnaeth e fwyta dim byd o gwbl y diwrnod hwnnw. Roedd wedi ypsetio'n lân am agwedd ei dad at Dafydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cododd Jonathan oddi wrth y bwrdd yn wyllt ei dymer, a heb fwyta tamaid ar ail ddiwrnod y newydd-loer, am ei fod yn gofidio dros Ddafydd, a bod ei dad wedi rhoi sen arno yntau.