1 Samuel 20:41 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bachgen a aeth ymaith; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd dair gwaith. A hwy a gusanasant bob un ei gilydd, ac a wylasant y naill wrth y llall; a Dafydd a ragorodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i'r bachgen fynd dyma Dafydd yn dod i'r golwg o'r tu ôl i'r pentwr. Aeth ar ei liniau ac ymgrymu gyda'i wyneb ar lawr dair gwaith. Wedyn dyma'r ddau ffrind yn cusanu ei gilydd a wylo, yn enwedig Dafydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i'r llanc fynd, cododd Dafydd o'r tu l i'r garreg, a syrthio ar ei wyneb i'r llawr ac ymgrymu deirgwaith. Yna cusanodd y ddau ei gilydd ac wylo, yn enwedig Dafydd.