1 Samuel 20:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Wele, y dydd cyntaf o'r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda'r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Dafydd, “Mae'n Ŵyl y lleuad newydd fory, ac mae disgwyl i mi fod yn bwyta gyda'r brenin. Ond rho di ganiatâd i mi fynd i ffwrdd i guddio yn y wlad am ddeuddydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Dafydd wrth Jonathan, "Y mae'n newydd-loer yfory, a dylwn fod yno'n bwyta gyda'r brenin; gad imi fynd ac ymguddio yn y maes tan yr hwyr drennydd.