1 Samuel 21:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef, Onid hwn yw Dafydd brenin y wlad? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma swyddogion Achis yn dweud, “Onid Dafydd ydy hwn, brenin y wlad? Onid am hwn roedden nhw'n canu wrth ddawnsio: ‘Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd.’?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd gweision Achis iddo, "Onid hwn yw Dafydd, brenin y wlad? Onid am hwn y maent yn canu wrth ddawnsio, 'Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiynau'?"