1 Samuel 21:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Dafydd yn dechrau ymddwyn yn od o'u blaenau nhw, a chymryd arno ei fod yn wallgof. Roedd rhaid iddyn nhw ei atal. Roedd e'n crafu drysau'r giât ac yn slefrian poer i lawr ei farf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Newidiodd ei ymddygiad o'u blaen, a dechrau ymddwyn fel ynfytyn yn eu mysg, a chripio drysau'r porth, a glafoerio hyd ei farf.