1 Samuel 21:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad, Y brenin a orchmynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthyf, Na chaed neb wybod dim o'r peth am yr hwn y'th anfonais, ac y gorchmynnais i ti: a'r gweision a gyfarwyddais i i'r lle a'r lle.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Dafydd yn ateb, “Y brenin sydd wedi gofyn i mi wneud rhywbeth. Mae wedi dweud fod neb i gael gwybod pam na ble dw i'n mynd. Dw i wedi trefnu i'r milwyr fy nghyfarfod i mewn lle arbennig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Dafydd wrth yr offeiriad Ahimelech, "Y brenin sydd wedi rhoi gorchymyn imi, a dweud wrthyf, 'Nid yw neb i wybod dim pam yr anfonais di, na beth a orchmynnais iti.' Ac yr wyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'r milwyr ifainc i'm cyfarfod yn y fan a'r fan.