1 Samuel 21:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a atebodd yr offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, Diau atal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri, er pan gychwynnais i; llestri y llanciau hefyd ydynt sanctaidd, a'r bara sydd megis cyffredin, ie, petai wedi ei gysegru heddiw yn y llestr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wrth gwrs! Dŷn ni ddim wedi bod yn agos at ferched,” meddai Dafydd. “Dydy'r dynion ddim yn cael mynd at ferched pan maen nhw ar gyrch cyffredin, felly'n sicr ddim heddiw, pan maen nhw wedi cysegru eu hunain a'u harfau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Dafydd, "Yn wir y mae'n hen arfer gennym ymgadw oddi wrth wragedd pan fyddaf yn cychwyn ar ymgyrch, fel bod arfau'r milwyr yn gysegredig; ac os yw felly ar siwrnai gyffredin, pa faint mwy y bydd yr arfau'n gysegredig heddiw?"