1 Samuel 21:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw un o weision Saul yn aros gerbron yr ARGLWYDD, a'i enw Doeg, Edomiad, y pennaf o'r bugeiliaid oedd gan Saul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd un o weision Saul yn digwydd bod yno y diwrnod hwnnw. Doedd e ddim yn gallu gadael am ei fod wedi mynd ar lw i'r ARGLWYDD. Doeg oedd ei enw ac roedd yn dod o Edom, a fe oedd fforman bugeiliaid Saul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y pryd, yr oedd un o weision Saul yno dan adduned gerbron yr ARGLWYDD; ei enw oedd Doeg yr Edomiad, ac ef oedd penbugail Saul.