1 Samuel 21:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech, Onid oes yma dan dy law di waywffon, neu gleddyf? canys ni ddygais fy nghleddyf na'm harfau chwaith i'm llaw, oherwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrwst.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn gofyn i Achimelech, “Oes gen ti gleddyf neu waywffon yma? Ro'n i ar gymaint o frys i ufuddhau i'r brenin, dw i wedi dod heb na chleddyf nac arfau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd Dafydd i Ahimelech, "Onid oes yma waywffon neu gleddyf wrth law gennyt? Oherwydd ni ddeuthum 'm cleddyf na'm harfau gyda mi, am fod cymaint brys gyda gorchymyn y brenin."