1 Samuel 21:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr offeiriad, Cleddyf Goleiath y Philistiad, yr hwn a leddaist ti yn nyffryn Ela; wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o'r tu ôl i'r effod: o chymeri hwnnw i ti, cymer; canys nid oes yma yr un arall ond hwnnw. A Dafydd a ddywedodd, Nid oes o fath hwnnw; dyro ef i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae cleddyf Goliath yma — y Philistiad wnest ti ei ladd yn Nyffryn Ela,” meddai'r offeiriad. “Mae wedi ei lapio mewn clogyn tu ôl i'r effod. Cei gymryd hwnnw os wyt ti eisiau. Hwnnw ydy'r unig un sydd yma.” Atebodd Dafydd, “Does dim un tebyg iddo! Rho fe i mi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yr offeiriad, "Beth am gleddyf Goliath y Philistiad, y dyn a leddaist yn nyffryn Ela? Y mae hwnnw yma wedi ei lapio mewn brethyn y tu l i'r effod. Os wyt ti am hwnnw, cymer ef, oherwydd nid oes yma yr un arall ond hwnnw."