1 Samuel 22:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o'i amgylch ef, Trowch, a lleddwch offeiriaid yr ARGLWYDD; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd, ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef, ac na fynegasant i mi. Ond gweision y brenin nid estynnent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fe'n dweud wrth y milwyr oedd o'i gwmpas, “Daliwch yr offeiriaid a lladdwch nhw, achos maen nhw ar ochr Dafydd! Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n dianc, ond wnaethon nhw ddim dweud wrtho i.” Ond doedd y milwyr ddim yn fodlon ymosod ar offeiriaid yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd y brenin wrth y gosgorddlu oedd yn sefyll yn ei ymyl, "Trowch arnynt a lladdwch offeiriaid yr ARGLWYDD, oherwydd y maent hwythau law yn llaw Dafydd, am eu bod yn gwybod ei fod ar ffo, ond heb yngan gair wrthyf." Ond ni fynnai gweision y brenin estyn llaw i daro offeiriaid yr ARGLWYDD.