1 Samuel 22:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd y brenin wrth Doeg, Tro di, a rhuthra ar yr offeiriaid. A Doeg yr Edomiad a drodd, ac a ruthrodd ar yr offeiriaid, ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar ugain o wŷr, yn dwyn effod liain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Doeg, “Ti! Ymosod di arnyn nhw a'u lladd nhw.” Felly dyma Doeg, oedd o wlad Edom, yn mynd allan a'u taro nhw. Lladdodd Doeg wyth deg pump o offeiriaid allai wisgo effod o liain y diwrnod hwnnw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd y brenin wrth Doeg, "Tro di a tharo'r offeiriaid." Fe droes Doeg a tharo'r offeiriaid; a'r diwrnod hwnnw fe laddodd bump a phedwar ugain o wu375?r yn gwisgo effod liain.