1 Samuel 22:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a aeth oddi yno i Mispa Moab; ac a ddywedodd wrth frenin Moab, Deled, atolwg, fy nhad a'm mam i aros gyda chwi, hyd oni wypwyf beth a wnêl DUW i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Dafydd ymlaen o'r fan honno i Mitspe yn Moab. Gofynnodd i frenin Moab, “Plîs wnei di adael i dad a mam aros yma, nes bydda i yn gwybod be mae Duw am ei wneud i mi?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oddi yno aeth Dafydd i Mispe yn Moab, a dweud wrth frenin Moab, "Gad i'm tad a'm mam ddod atat, nes y byddaf yn gwybod beth a wna Duw imi."