1 Samuel 22:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan i chwi oll gydfwriadu i'm herbyn i, ac nad oes a fynego i mi wneuthur o'm mab i gynghrair â mab Jesse, ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o'm plegid i, nac yn datguddio i mi ddarfod i'm mab annog fy ngwas i gynllwyn i'm herbyn, megis y dydd hwn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pam dych chi'n cynllwynio yn fy erbyn i? Pam wnaeth neb ddweud wrtho i fod fy mab fy hun wedi gwneud cytundeb gyda mab Jesse? Doedd neb yn cydymdeimlo hefo fi. Doedd neb yn fodlon dweud wrtho i fod fy mab i fy hun yn helpu gwas i mi i baratoi i ymosod arna i. Dyna sy'n digwydd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er hynny yr ydych i gyd yn cynllwyn yn f'erbyn. Nid ynganodd neb air wrthyf pan wnaeth fy mab gyfamod mab Jesse. Nid oedd neb ohonoch yn poeni amdanaf fi, nac yn yngan gair wrthyf pan barodd fy mab i'm gwas godi cynllwyn yn f'erbyn fel y gwna heddiw."