1 Samuel 23:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ddyry arglwyddi Ceila fi yn ei law ef? a ddaw Saul i waered, megis y clybu dy was? O ARGLWYDD DDUW Israel, mynega, atolwg, i'th was. A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Efe a ddaw i waered.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd awdurdodau'r dre yn fy rhoi yn ei ddwylo? Ydy Saul wir yn dod i lawr, fel dw i wedi clywed? O ARGLWYDD, Duw Israel, plîs ateb dy was.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ydy, mae e yn dod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi iddo? A ddaw Saul i lawr fel y clywodd dy was? O ARGLWYDD Dduw Israel, rho ateb i'th was." Atebodd yr ARGLWYDD, "Fe ddaw."