1 Samuel 23:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y cyfododd Dafydd a'i wŷr, y rhai oedd ynghylch chwe chant, ac a aethant o Ceila, ac a rodiasant lle y gallent. A mynegwyd i Saul, fod Dafydd wedi dianc o Ceila; ac efe a beidiodd â myned allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Dafydd a'i ddynion (tua 600 ohonyn nhw i gyd) yn gadael Ceila ar unwaith. Roedden nhw'n symud o le i le. Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, dyma fe'n rhoi'r gorau i'w fwriad i ymosod ar y dre.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddywedwyd wrth Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, peidiodd chychwyn allan.