1 Samuel 23:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a'i wŷr a aethant i Ceila, ac a ymladdodd â'r Philistiaid: ac a ddug eu gwartheg hwynt, ac a'u trawodd hwynt â lladdfa fawr. Felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceila.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Dafydd a'i ddynion yn mynd i Ceila ac ymladd yn erbyn y Philistiaid, a dwyn eu gwartheg nhw. Roedd lladdfa ofnadwy, ond llwyddodd Dafydd i achub pobl Ceila.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly fe aeth Dafydd a'i wu375?r i Ceila ac ymladd 'r Philistiaid, a mynd 'u gwartheg ymaith, a gwneud lladdfa fawr yn eu mysg hwy; ac achubodd Dafydd drigolion Ceila.