1 Samuel 23:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Ceila. A dywedodd Saul, DUW a'i rhoddodd ef yn fy llaw i: canys caewyd arno ef pan ddaeth i ddinas â phyrth ac â barrau iddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywodd Saul fod Dafydd wedi dod i Ceila, a dwedodd, “Mae Duw wedi ei roi e yn fy nwylo i! Mae e wedi cau ei hun mewn trap drwy fynd i dref sydd â giatiau dwbl a barrau i'w cloi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan fynegwyd i Saul fod Dafydd wedi mynd i Ceila, dywedodd Saul, "Y mae Duw wedi ei roi yn fy llaw, oherwydd y mae wedi cau amdano wrth fynd i ddinas ac iddi byrth a barrau."