1 Samuel 24:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i'r ARGLWYDD dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof: a dywedwyd wrthyf am dy ladd di; ond fy enaid a'th arbedodd di: a dywedais, Nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr; canys eneiniog yr ARGLWYDD yw efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rwyt ti wedi gweld drosot dy hun heddiw fod Duw wedi dy roi di yn fy ngafael i pan oeddet ti yn yr ogof. Roedd rhai yn annog fi i dy ladd di, ond wnes i ddim codi llaw yn erbyn fy meistr. Ti ydy'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Heddiw fe weli 'th lygaid dy hun i'r ARGLWYDD dy roi yn fy llaw heddiw yn yr ogof; a dywedwyd wrthyf am dy ladd, ond trugarheais wrthyt a dweud, 'Nid estynnaf fy llaw yn erbyn f'arglwydd, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw.'