1 Samuel 24:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny bydded yr ARGLWYDD yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadl, ac achubed fi o'th law di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Boed i'r ARGLWYDD farnu rhyngon ni'n dau. Bydd e'n ystyried yr achos ac yn dadlau o'm plaid i. Bydd e'n fy achub i o dy afael di!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe gaiff yr ARGLWYDD fod yn ddyfarnwr a barnu rhyngom a'n gilydd; caiff ef chwilio a dadlau f'achos a'm rhyddhau o'th law."