1 Samuel 24:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff. A Dafydd a'i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y ffordd, wrth ymyl corlannau'r defaid, roedd yna ogof. Roedd Saul eisiau mynd i'r tŷ bach, felly aeth i mewn i'r ogof. Roedd Dafydd a'i ddynion yn cuddio ym mhen draw'r ogof ar y pryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth at gorlannau'r defaid ar y ffordd, yr oedd yno ogof, ac aeth Saul i mewn i esmwytho'i gorff; ond yr oedd Dafydd a'i wu375?r yno ym mhen draw'r ogof.