1 Samuel 24:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r dynion yn dweud wrth Dafydd, “Dyma ti'r diwrnod y dwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti amdano, ‘Bydda i'n rhoi dy elyn yn dy afael, a chei wneud fel y mynni gydag e.’” A dyma Dafydd a mynd draw yn ddistaw bach, a thorri cornel mantell Saul i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai gwu375?r Dafydd wrtho, "Dyma'r diwrnod y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt y byddai'n rhoi dy elyn yn dy law, a chei wneud iddo beth a fynni." Cododd Dafydd yn ddistaw a thorrodd gwr y fantell oedd am Saul.