1 Samuel 25:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu farw Samuel; a holl Israel a ymgynullasant, ac a alarasant amdano ef, ac a'i claddasant ef yn ei dŷ yn Rama. A Dafydd a gyfododd, ac a aeth i waered i anialwch Paran.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Samuel wedi marw, a daeth pobl Israel i gyd at ei gilydd i alaru amdano. Cafodd ei gladdu ger ei gartre yn Rama. Aeth Dafydd i lawr i anialwch Maon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu farw Samuel, a daeth Israel gyfan ynghyd i alaru amdano a'i gladdu yn ei gartref yn Rama. Yna fe aeth Dafydd i ddiffeithwch Maon.